We use cookies to improve your experience on this website. Read More Allow Cookies
Ymarferion Cyfannu: Middle
Ymarferion Cyfannu: Middle

Ymarferion Cyfannu: Middle

Preview Book

Mae cyfannu yn strategaeth ddysgu gydnabyddedig ar gyfer datblygu sgiliau iaith mewn ysgolion cynradd. Defnyddiodd yr awdur ei brofiad helaeth fel athro a phrifathro i ysgrifennu'r gyfres hon o lyfrau, sy'n cynnwys ymarferion cyfannu amrywiol a diddorol. Ceir dau brif fath o ymarferion cyfannu yn y llyfr hwn - ymarferion lle ceir rhestri atebion a rhai lle gofynnir i'r disgyblion ddarparu eu geiriau eu hunain. Yn y ddau fath, defynyddir strategaethau darllen fel cliwiau cyd-destun, sgiliau cystrawennol a semanteg adnabod geiriau a.y.b. Mae'r darnau ffeithiol yn galluogi plant i ddefnyddio'u sgiliau darllen a dysgu ffeithiau diddorol am bynciau amrywiol ar yn un pryd. Bydd y darnau hyn yn helpu i ehangu geirfa a gellid eu defnyddio yn fannau cychwyn ar gyfer mynegiant ysgrifenedig. Dylai plant ddarparu eu geiriau eu hunain mewn sefyllfaoedd adolygu ac nid dewis o blith rhestr o eiriau.

No reviews have been added for this product yet.

Write a review